Jana Bauer
Cydlynydd Data
Daw Jana yn wreiddiol o’r Almaen ond symudodd i Gymru ddegawdau yn ôl, syrthiodd mewn cariad â’r wlad a phenderfynu ymgartrefu a magu teulu yma.
Mae Jana, sy'n fam i ddau o blant, yn sicrhau bod ei hiaith frodorol yn cael ei throsglwyddo i lawr tra'n dal i ddysgu'r iaith Gymraeg trwy ei gŵr a'i bechgyn. Mae’n mwynhau archwilio diwylliant a chefn gwlad helaeth Cymru trwy gerdded, gwersylla a theithiau dydd. Fel eiriolwr brwd dros les cymdeithasol ac emosiynol, mae’n cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau yn y gymuned ac yn cefnogi ei hadran Sgowtiaid leol fel Arweinydd Cynorthwyol Afancod.
Rôl Jana yw cefnogi’r tîm gydag unrhyw waith gweinyddol prosiect, gan sicrhau y glynir at brosesau a gweithdrefnau a chyfeirio buddiannau prosiect at eu cysylltiadau cywir. Mae hi hefyd yn gweithio gyda chleientiaid i sicrhau bod gennym ni a nhw yr holl wybodaeth angenrheidiol ar gyfer rhedeg y prosiect yn esmwyth. Mae hi wedi gweithio i’r Brifysgol ers 2011 yn bennaf mewn rôl prosiect a ariennir gan Ewrop.