Motion Rail
Hyfforddiant Rheilffordd mewn Amgylchedd Diogel
Mae Emma Gilchrist, Rheolwr Gyfarwyddwr Motion Rail, wedi cydnabod yr angen i ddefnyddio technoleg newydd i addysgu gweithwyr rheilffyrdd a phlant am Ddiogelwch Rheilffyrdd.
Yn 2016/17 bu 39 o farwolaethau, heb gynnwys hunanladdiadau, ar reilffyrdd. Roedd chwech o'r rhain yn weithlu a 33 yn farwolaethau cyhoeddus, yn bennaf oherwydd tresmaswyr a chroesfannau rheilffordd. Roedd 164 o anafiadau mawr a 5,676 o fân anafiadau i'r gweithlu. Mae 70% o oedolion yn credu ei bod yn ddiogel croesi croesfan reilffordd pan fydd y rhwystrau i lawr, os nad oes trên yn dod ac mae dros 28% yn credu bod croesi traffordd yn fwy peryglus na chroesi rheilffordd, er nad yw trenau’n gallu stopio’n gyflym, neu newid cyfeiriad.
“Mae gan Brydain un o’r rheilffyrdd mwyaf diogel yn Ewrop ond ni allwn fod yn hunanfodlon. Wrth i’r rheilffordd barhau i fynd yn brysurach, rhaid i ni barhau i weithio’n galed i wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn ymwybodol o’r peryglon sy’n bodoli ar y cledrau ac yn agos atynt.”
— Andy Thomas, Managing Director of England and Wales at Network Rail
Gwneud Rheilffyrdd yn Fwy Diogel, Dau Ateb Realiti Rhithwir ar y Tro
Cysylltodd Emma â CEMET gyda syniad i ddefnyddio Virtual Reality (VR) i wella eu rhaglen hyfforddi gweithlu ac i addysgu plant am beryglon chwarae ar draciau rheilffordd. Mae dwy adran i’r rhaglen hon. Mae un yn cynorthwyo i hyfforddi gweithwyr rheilffordd ar y safle, sy'n gyfrifol am osod gwylfeydd yn gywir wrth wneud gwaith atgyweirio ar y cledrau. Mae'r ail yn addysgu plant Ysgol Gynradd sut i fynd ar draws croesfan gwastad a throed yn ddiogel.
Achub Bywydau a Chynyddu Cyfleoedd Busnes
Nod y prosiect hwn yw cynyddu ymwybyddiaeth a lleihau digwyddiadau trwy wneud y gweithlu yn ymwybodol o'r amser priodol sydd ei angen i symud allan o'r ffordd pan fydd trên yn agosáu, gan roi senario amser real iddynt mewn amgylchedd diogel. Mae hyn yn sicrhau cydymffurfiaeth ac yn achub bywydau. Yn ogystal, mae'r prosiect yn addysgu plant a'r genhedlaeth nesaf o ddefnyddwyr rheilffyrdd, a thresmaswyr posibl, am berygl y rheilffordd a'r ffordd briodol o negodi croesfannau rheilffordd a throed.
Mae Network Rail wedi cymeradwyo’r senario Realiti Rhithwir sy’n addysgu plant tra bod Pulsar yn eu noddi i fynychu ysgolion er mwyn sicrhau diogelwch plant ar y rheilffordd.